Copy
View this email in your browser
Noddir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Raglen Iwerddon Cymru
Denys Corbett Wilson with his Bleriot XI monoplane. 1912. Source: Corbett Wilson Archive. CC0 - public domain.

Stori Dreftadaeth: Yr Hediad Cyntaf

Ym 1912, roedd y ras ymlaen i weld pwy fyddai'r person cyntaf i groesi’n llwyddiannus rhwng Prydain Fawr ac Iwerddon mewn awyren. Mae'r dramodydd o Sir Benfro, Derek Webb, yn ysgrifennu am daith un arloeswr awyrennau cynnar, Denys Corbett Wilson. Darllenwch ragor yma.

Cwm-yr-Eglwys, site of ruined church. Creator: Natasha de Chroustchoff.

Stori Dreftadaeth: Y Pentref a Gollodd ei Eglwys

Collodd pentrefwyr Cwmyreglwys eu heglwys yn yr un storm ddinistriol ym 1859 ag a suddodd y llong Royal Charter. Darllenwch stori Natasha de Chroustchoff yma

Mary Wollstonecraft in 1790-91. Tate Britain, via Wikimedia Commons. John Opie, 1790-91.

Taith Stori: Storïau Menywod

Rydyn ni wedi casglu ynghyd ein storïau am fenywod, eu teithiau, a'u profiadau rhwng ac ar draws Môr Iwerddon a'i lannau. Cymerwch olwg yma. Mae’r storïau newydd sbon yn cynnwys Pobl y Fro a Y Cymry a setlodd yn Wicklow.

Gwahoddiad ichi: Grwp Ffocws yr Ap

Rydyn ni wedi dechrau datblygu ap ein prosiect, Mannau Porthladdoedd, a hoffem gael eich mewnbwn chi. Rydym yn gobeithio cynnull cyfres o grwpiau ffocws, gan ddod â rhanddeiliaid o bob un o'r porthladdoedd at ei gilydd ar ddwy ochr Môr Iwerddon, i siapio'r broses o ddatblygu’r ap.

Y nod yw cynnal y cyntaf o'r grwpiau ffocws hyn am 1.00pm ddydd Iau 28 Ionawr a'r ail am 1.00pm ddydd Iau 25 Chwefror.

Os hoffech chi ymuno â ni, anfonwch neges ebost at Jonathan Evershed (jonathan.evershed@ucc.ie). 

Seminar Cysylltiadau’r Glannau: Brexit

Mae seminar ar-lein cyntaf Cysylltiadau’r Glannau yn cael ei gynnal ar 21 Ionawr am 7pm (hynny yw yfory, os ydych chi'n darllen y cylchlythyr hwn ar y diwrnod y cafodd ei anfon!). 

Mae'r digwyddiad hwn yn edrych ar gymhlethdodau Brexit i'r cymunedau ar y glannau o boptu i Fasn Môr Iwerddon. Mae'r siaradwyr yn cynnwys ein hymchwilwyr prosiect Rhys Jones a Jonathan Evershed. Cofrestrwch
yma.

Image of the ceremony at Tagayama Koen Park, 2020. Shared with permission of the Japan British Society of Kagoshima. All rights reserved.

Blogbost: Gwaddol Coeden Ginco yn Parhau

Ar 22 Tachwedd 2020, cafodd y trydydd toriad ei blannu yn Japan o goeden ginco hanesyddol sy'n tyfu yn Noc Penfro. Darllenwch ein blogbost i ddysgu'r stori y tu ôl i'r goeden, a manylion y seremoni blannu ddiweddaraf. Diolch i David James a Suzuko Sakai am gyfrannu at y darn hwn.

Cyflwyno’n Podlediad: Storïau’r Porthladdoedd

Rydyn ni wedi dechrau podlediad! Gwrandewch ar y bennod ragarweiniol o Storïau’r Porthladdoedd, sydd ar gael ar Spotify yma. Mae'r bennod hon ar y thema 'Cymhellion': beth sy'n ein cymell ni fel tîm prosiect?

Dechrau pethau yn unig yw hyn: mae gennyn ni gynlluniau ar gyfer digon o sgyrsiau gwych o’r porthladdoedd. Cofiwch danysgrifio i glywed mwy yn y dyfodol.

Ffilmiau Byr

Fe fydden ni wrth ein bodd pe gallen ni gysylltu ag unrhyw un sy'n ymwneud â threftadaeth neu waith cymunedol yn y porthladdoedd.

Rydyn ni wrthi’n paratoi i gynhyrchu ffilmiau byr am y porthladdoedd. Cysylltwch â ni os oes gennych stori i'w hadrodd ar gyfer y ffilmiau hyn, neu os ydych chi’n adnabod rhywun sydd â stori.

Cysylltwch â ni trwy e-bostio: ports@ucc.ie, ar Twitter, Facebook neu Instagram. Ymunwch â rhwydwaith Slack y prosiect drwy glicio ar y ddolen hon.

Facebook
Twitter
Link
Website
This newsletter was created by project manager Aoife Dowling, and translated by David Bullock.

Project partners: University College Cork, University of Wales Centre for Advanced Welsh and Celtic Studies (CAWCS), Aberystwyth University and Wexford County Council. 





Our mailing address is:
ports@ucc.ie

Want to change how you receive these emails?
You can update your preferences or unsubscribe from this list.
 






This email was sent to <<Cyfeiriad e-bost>>
why did I get this?    unsubscribe from this list    update subscription preferences
Ports, Past and Present · c/o School of English, O'Rahilly Building · University College Cork · Cork, Cork · Ireland

Email Marketing Powered by Mailchimp